Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home|Hafan
  • About|Am Natasha
  • News|Newyddion
  • My Plan|Fy Nghynllun
  • Contact|Cyswllt
Site logo

MS full of praise for Royal Welsh Show on opening day

  • Tweet
Monday, 24 July, 2023
  • Local News
Natasha Asghar MS at Royal Welsh Show.

 

Natasha Asghar MS hailed the Royal Welsh Show 'truly fantastic' as the South East Wales politician headed to Powys for the opening day of the popular event on Monday (July 24).

Natasha caught up with a whole host of charities, businesses, organisations, and individuals as thousands descended on the showground.

She met with Openreach to find out more about the work they are doing in South East Wales when it comes to rolling out ultrafast full fibre broadband before meeting with the British Army.

The Army showed off some of their equipment and vehicles before giving Natasha a full briefing about their presence in Wales.

Natasha also caught up with the likes of ITV Wales, Dogs Trust, Tenovus, Cruse Bereavement Care, Prostate Cymru, and BBC Wales to name just a few.

The show – one of the biggest in Europe – was also a chance for Natasha to sample some of the best food and drink Wales has to offer.

As well as that, Natasha also viewed some of the show's livestock and caught a glimpse of various competitions.

Speaking after the show, Natasha Asghar MS said:

“Royal Welsh is a truly fantastic event, bringing thousands of people together and showcasing some of the best things we have on offer here in Wales.

“It’s also a perfect opportunity to meet so many different people and groups to see what they've been up to, but to also find out how I can help them in my role as a Member of the Welsh Parliament.

“Despite the less than great weather - in stark contrast to last year's soaring temperatures - I think everyone had a great time and it was a pleasure meeting so many new faces.

"It's clear to see why The Royal Welsh Show is a highlight of the year for so many people and I'd encourage everyone to grab a ticket and attend!"

 

___________________________________

 

Dywedodd Natasha Asghar AS fod y Sioe Frenhinol yn 'wirioneddol wych' ar ôl i’r Aelod o’r Senedd o’r de-ddwyrain fynd i Bowys ar gyfer diwrnod agoriadol y digwyddiad poblogaidd ddydd Llun (24 Gorffennaf).

Bu Natasha yn sgwrsio gyda llu o elusennau, busnesau, sefydliadau ac unigolion wrth i filoedd grwydro maes y sioe.

Cafodd gyfarfod ag Openreach i glywed mwy am y gwaith maen nhw’n ei wneud yn ne-ddwyrain Cymru o ran cyflwyno band eang gwibgyswllt ffeibr llawn cyn cyfarfod â'r Fyddin Brydeinig.

Dangosodd y Fyddin rywfaint o'u hoffer a'u cerbydau cyn rhoi briff llawn i Natasha am eu presenoldeb yng Nghymru.

Cafodd Natasha y cyfle hefyd i siarad gyda phobl fel ITV Wales, Dogs Trust, Tenovus, Cruse Bereavement Care, Prostate Cymru, a BBC Cymru i enwi dim ond rhai.

Roedd y sioe - un o'r rhai mwyaf yn Ewrop - hefyd yn gyfle i Natasha flasu peth o'r bwyd a diod gorau sydd gan Gymru i'w gynnig.

Yn ogystal â hynny, gwelodd Natasha hefyd rai o dda byw'r sioe a chael cipolwg ar gystadlaethau amrywiol.

Wrth siarad ar ôl y sioe, dywedodd Natasha Asghar AS:

"Mae Sioe Frenhinol Cymru yn ddigwyddiad gwirioneddol wych, gyda miloedd o bobl yn dod ynghyd ac yn arddangos rhai o'r pethau gorau sydd gennym ni yma yng Nghymru.

"Mae hefyd yn gyfle perffaith i gwrdd â chymaint o wahanol bobl a grwpiau i weld beth maen nhw wedi bod yn ei wneud, ond hefyd i wybod sut y gallaf eu helpu yn fy rôl fel Aelod o’r Senedd.

"Er gwaetha'r tywydd garw – oedd yn hollol wahanol i haul crasboeth y llynedd - rwy'n meddwl bod pawb wedi cael amser gwych ac roedd yn bleser cwrdd â chymaint o wynebau newydd.

"Mae'n amlwg gweld pam fod Sioe Frenhinol Cymru yn uchafbwynt y flwyddyn i gymaint o bobl a byddwn yn annog pawb i gael gafael ar docyn a mynd yno!"

You may also be interested in

Natasha Asghar MS on the set of Sex Education.

MS goes behind the scenes of Netflix smash-hit series

Monday, 25 September, 2023

Natasha Asghar MS went behind-the-scenes of Netflix’s smash hit series Sex Education as cameras were rolling for show’s fourth series recently.

 

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Senedd News

Natasha Asghar MS AS

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Natasha Asghar/Mwy am Natasha Asghar
Welsh ConservativesNeither the Welsh Parliament nor Natasha Asghar are responsible for the content of external links or websites | Nid yw Senedd Cymru na Natasha Asghar yn gyfrifol am gynnwys dolenni allanol na gwefannau. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Mae Comisiwn y Senedd wedi talu am y ffurflen yma o arian cyhoeddus Promoted by Natasha Asghar on her own behalf, at Rathbone House, 1 Serpentine Road, Newport NP20 4PF. Hyrwyddwyd gan Natasha Asghar ar ei rhan ei hun, yn Rathbone House, 1 Serpentine Road, Casnewydd NP20 4PF
Copyright 2023 Natasha Asghar MS AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree