Natasha Asghar MS is encouraging older people across South East Wales to sign up for scam awareness courses after a sharp rise in scamming incidents.
Age Cymru Gwent are running sessions for groups and individuals both in person and online to teach people how to avoid becoming victims of scams.
Fraud is one of the fastest rising crimes in the UK – going up by 36% last year.
Official crime figures show that an older person in England and Wales becomes a victim of fraud every 40 seconds.
Natasha Asghar, the Senedd Member for South East Wales, said:
“Having read countless news stories, had personal experiences of scammers and worked in the banking sector, I can understand why it is easy for people to fall victim to scams as the scammers are becoming more and more convincing.
“Anyone can be scammed, but scammers particularly prey on the elderly and vulnerable, playing on their fear. Anything we can do to make people more vigilant about the scammers and empower the public has to be welcome.
“I would encourage everyone across South East Wales to sign up to these Scam Awareness Sessions, which are being put on by Age Cymru Gwent, to learn about scams and how to spot them.”
Anyone who would like to sign up for a Scam Awareness Session should email rwatkins@agecymrugwent.org or call 07458025041.
_________________________________________________
Mae Natasha Asghar AS yn awyddus i bobl hŷn ledled y De-ddwyrain gofrestru ar gyrsiau sy’n codi ymwybyddiaeth o sgamiau, yn sgil y cynnydd sydyn mewn achosion o sgamio.
Mae Age Cymru Gwent yn cynnal sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein ar gyfer grwpiau ac unigolion, i ddysgu pobl sut i beidio â chael eu twyllo gan sgamiau.
Twyll yw un o'r troseddau sy'n cynyddu gyflymaf yn y DU – gwelwyd cynnydd o 36% y llynedd.
Mae’r ffigurau troseddau swyddogol yn dangos bod unigolyn hŷn yng Nghymru a Lloegr yn cael ei dwyllo bob 40 eiliad.
Dywedodd Natasha Asghar, Aelod o’r Senedd dros y De-ddwyrain:
"Ar ôl darllen straeon beunydd yn y newyddion, cael profiadau personol o sgamwyr, a gweithio yn y sector bancio, rwy’n deall yn iawn pam ei bod yn hawdd i bobl gael eu twyllo gan sgamiau wrth i'r sgamwyr ddod yn fwyfwy credadwy.
"Gall unrhyw un gael ei dwyllo, ond mae sgamwyr yn fwy tebygol o dargedu’r henoed a phobl fregus, a chwarae ar eu hofnau. Rhaid croesawu unrhyw gamau a fydd yn grymuso'r cyhoedd a gwneud pobl yn fwy effro i sgamwyr.
"Hoffwn annog pawb yn y De-ddwyrain i gofrestru ar gyfer y Sesiynau Ymwybyddiaeth hyn, sy'n cael eu darparu gan Age Cymru Gwent, er mwyn dysgu am sgamiau a sut i'w hadnabod."
Os hoffech gofrestru ar gyfer Sesiwn Ymwybyddiaeth o Sgamiau, anfonwch e-bost at rwatkins@agecymrugwent.org neu ffoniwch 07458025041.